Rheolau diwygiedig ar gyfer cadw pellter corfforol
Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw parhau i ddiogelu’r cyhoedd rhag y coronafeirws. I wneud hynny, rydym wedi gwneud newidiadau graddol a chall i’r gofynion a darparu eglurder i’r cyhoedd a busnesau ynghylch sut orau i reoli’r risgiau wrth i’r pandemig barhau. Fel rhan o hynny, hoffwn dynnu eich sylw at ein rheolau diwygiedig ar gadw pellter corfforol ac (yn fwy cyffredinol) leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithle ac mewn mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd – mae gwybodaeth am yr elfennau allweddol yn yr atodiad, ond mae’r manylion llawn i’w gweld yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Wrth inni lacio rhai o’r cyfyngiadau ar gyfer y cyhoedd yn fwy cyffredinol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cymryd camau ymarferol i liniaru’r risgiau. Felly, mae’r rheoliadau yn cynnwys dull mwy manwl o fynd ati i sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hyn yn dal i fod yn seiliedig ar gadw pellter cymdeithasol o 2m ond mae hefyd yn cyflwyno gofynion ychwanegol mewn perthynas â hylendid, cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb a darparu gwybodaeth i weithwyr
a’r cyhoedd. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai achlysuron na fydd modd cadw pellter o 2m ac mae’r mesurau ychwanegol y bydd angen i fusnesau eu rhoi yn eu lle yn arbennig o bwysig yn y cyd-destun hwnnw.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar weithredu’r gofynion cyfreithiol y mae angen eu hystyried. Mae’r canllawiau i’w gweld yma
Rydym yn cydnabod, wrth iddynt ailagor, fod manwerthwyr yn rhoi yn eu lle amrywiaeth eang o fesurau, gan gynnwys cyflwyno systemau un ffordd, cyfyngu ar nifer y bobl sy’n mynd i mewn i siopau a rhoi sgriniau i fyny, i sicrhau bod eich siopau yn weithleoedd diogel ac yn fannau diogel i’r cyhoedd. Rydym yn ddiolchgar am hynny ac yn cydnabod bod y mesurau hyn, ynghyd â hylendid personol da, gan gynnwys golchi dwylo yn ein helpu i atal y coronafeirws rhag lledu yn ein cymunedau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd rhai amgylchiadau lle na fydd cadw pellter corfforol yn bosibl nac yn ddigonol, a bydd angen cymryd camau pellach gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol. Er nad ydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd manwerthu, fe’ch cynghorwn i ystyried ei fod yn briodol neu’n angenrheidiol ichi ofyn i’ch cwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb. Dylid ystyried hyn, ochr yn ochr â’r mesurau eraill a ddisgrifir yn yr atodiad, fel rhan o’r asesiad risg y bydd angen ichi ei gyflawni i sicrhau eich bod wedi rhoi’r holl fesurau rhesymol yn eu lle i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn eich mangre chi.
Yn gywir
Ken Skates AS/MS
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Minister for Economy, Transport and North Wales